Wedi'i sefydlu yn 1993 fel Urdd Lifrai Cymru i hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru, yn 2013 cyflwynwyd Siarter Frenhinol i'r Urdd a ail-enwyd yn Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.
Mae’r Cwmni yn ymroddedig i helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau drwy gyfrwng rhaglen wobrwyo flynyddol o ysgoloriaethau a gwobrau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal ag i brentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Yn 2018, dathlodd y cwmni y Jiwbilî Arian ers ei sefydlu yn 1993.